home > cefnogi ni > cyfrannu
Mae nifer o wahanol ffyrdd o dalu arian i Dŷ Hafan. Dewiswch yr un sydd fwyaf addas ar eich cyfer chi a dilynwch y cyfarwyddiadau’n ofalus.
Y cyfan rydym yn ei ofyn yw i chi dalu eich arian i mewn yn fuan ar ôl i chi orffen codi’r arian. Yna byddwn yn gallu defnyddio’ch arian ar unwaith i helpu plant a phobl ifanc sy’n byw bywydau byr a’u teuluoedd.
Trwy roi arian er cof am rywun annwyl, gallwch helpu plant a phobl ifanc sy’n byw bywydau byr a’u teuluoedd i gael y cymorth mae arnynt ei angen.
Os ydych yn priodi neu’n dathlu pen-blwydd neu ben-blwydd priodas, gallwch wneud eich dathliad yn fwy arbennig fyth trwy godi arian i Dŷ Hafan ar yr un pryd.
Mae gadael rhodd yn eich ewyllys yn ffordd arbennig iawn o wneud yn siŵr bod Tŷ Hafan bob amser yno ar gyfer y nifer cynyddol o deuluoedd y mae angen ein cymorth arnynt.
Gallwn ddefnyddio unrhyw eiddo nad oes gennych ddefnydd pellach iddo i godi arian ar gyfer ein gwasanaethau hanfodol. Gwerthfawrogwn dderbyn eitemau glân o ansawdd uchel, sydd mewn cyflwr da heb unrhyw ddarnau ar goll.
Trwy lenwi ffurflen cymorth rhodd, bydd eich rhodd yn werth 25% yn fwy heb unrhyw gost i chi.
Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau yn ddefnyddio ein gwefan. Drwy barhau tybiwn eich caniatâd i ddefnyddio'r cwcis fel y nodir yn ein polisi preifatrwydd a cwcis
share