Ty Hafan
harry banner
Mae pawb yn dweud ‘mae bywyd yn rhy fyr’, ond do’n i erioed wedi gwerthfawrogi pa mor wir oedd y geiriau hynny mewn gwirionedd nes cafodd fy mab, Harry, ei eni.

Cafodd Harry ddiagnosis o Syndrom Mowat Wilson (MWS) pan oedd e’n dair oed. Anhwylder cromosomaidd prin yw MWS, sy’n golygu bod ganddo epilepsi difrifol a nifer o broblemau corfforol a datblygiadol eraill. Mae ei gyflwr yn hynod o ddifrifol, ac yn y pen draw mae’n bosibl y bydd e’n marw cyn tyfu’n oedolyn.

Felly i Harry, i mi, ac i Archie, brawd Harry, mae bywyd yn wirioneddol rhy fyr.

Rydw i’n sylweddoli na fydd bywyd Harry mor hir ag yr hoffwn iddo fod, ac na chaf i fyth ei weld yn priodi, yn cael ei swydd gyntaf, nac yn cael ei blant ei hun. Ond diolch i Tŷ Hafan, a’ch cefnogaeth chi, rydym eisoes wedi llwyddo i lenwi tair blynedd ar ddeg Harry â hwyl a chwerthin, ac wedi creu atgofion y gwn y byddwn yn eu trysori am byth.


Wna i byth anghofio ymweliad cyntaf Harry â Tŷ Hafan. Roedden ni’n teimlo’n bryderus, wrth gwrs, ond wrth weld Harry’n siocled drosto i gyd ar ôl llowcio darn o gacen, ac yn poeni dim am y llanast, diflannodd unrhyw ofidiau oedd gen i.

A dyna i chi’r Parti Calan Gaeaf ar gyfer brodyr a chwiorydd y gwahoddwyd Archie iddo. Gadawodd fy mam a minnau i’r bechgyn redeg yn wyllt yng nghanol sgerbydau ac afalau i ddowcio amdanynt. Pan aethom yn ôl i’w gasglu roedd e’n wlyb domen ac yn wên o glust i glust.


Heb Tŷ Hafan, does gen i ddim syniad sut y bydden ni wedi ymdopi. Mae gwybod eu bod nhw yno 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, yn rhoi teimlad o ryddhad i mi na fyddwn yn ei gael yn unman arall.

Gall gofalu am Harry fod yn hynod o heriol ar brydiau, ac yn aml rydyn ni’n teimlo fel petaen ni ar fin cyrraedd rhyw bwynt argyfwng. Mae ar Harry angen llawer o sylw, a phan fyddwn gartref ni allaf ei adael, hyd yn oed am amser byr. Dyw hyd yn oed mynd i’r tŷ bach ddim yn syml. Ond er gwaethaf hyn i gyd, a’r holl droeon mae e’n gorfod mynd i’r ysbyty, mae Harry wastad yn gwenu a byth yn cwyno.

Dyna pam mae Tŷ Hafan mor berffaith ar gyfer Harry.

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn cymryd yn ganiataol mai lle llawn dioddefaint yw hosbis i blant, lle mae plant a phobl ifanc yn mynd i lusgo byw eu dyddiau olaf. Ond wrth i chi gamu dros y trothwy fe glywch blant yn bloeddio chwerthin, a gweld eu gwenau anhygoel - gallwch deimlo’r hapusrwydd.

Dyw Harry, na’r holl blant a phobl ifanc eraill yn Tŷ Hafan, ddim yn gwybod sawl pen-blwydd sydd ganddyn nhw ar ôl.

Ond yr hyn sy’n bwysig i mi yw bod Harry yn cael cyfle i fwynhau gymaint o’i fywyd ag y gall, a bod Tŷ Hafan yn ein helpu ni i wneud y gorau o bob dydd, bob awr a phob munud gyda’n gilydd.

Daw bron iawn y cyfan o’r holl arian sydd ei angen i gadw Tŷ Hafan i fynd oddi wrth bobl hyfryd fel chi. Mae sawl Harry arall mas yna; sawl teulu fel ein teulu ni. Bydd Tŷ Hafan yn agor ei ddrysau iddyn nhw i gyd, felly os gallwch roi rhywbeth i helpu nawr, gallaf eich sicrhau eich bod yn creu atgofion a fydd yn para am byth.

 

Yr anhygoel ieuan

Mae’r gefnogaeth wedi bod yn aruthrol. Ni all geiriau fyth fynegi dyfnder yr hyn rydym wedi ei gael. 

Donate

share